Cylchlythyr Hydref 2018

 Mae Canolfan Fenter Congl Meinciau yn cynnig gofod swyddfa ac adnoddau i fusnesau ym Mhen Llŷn. Rydym yn cynnal gwahanol digwyddiadau a chyrsiau dros y flwyddyn yn ein stafelloedd cyfarfod ac hyfforddiant sydd ar gael i’w rhentu ar gyfer hanner diwrnod neu diwrnod llawn.

 

Swyddfeydd ar gael

A ydych chi’n chwilio am ofod swyddfa? Mae swyddfeydd nawr ar gael yn y ganolfan, sy’n amrywio o ran maint, ac felly’n berffaith i fusnesau sy’n cychwyn neu i fusnesau sydd eisiau tyfu. Beth bynnag yw eich anghenion mae gennym ni’r gofod perffaith ar eich cyfer chi ar delerau cystadleuol. Mae pob stafell yn cynnwys ffôn gyda rhif uniongyrchol, Wi-Fi a chyswllt band eang cyflym. Gellir llogi swyddfeydd wedi ei dodrefnu neu heb ei ddodrefnu.  Cewch mynediad 24 awr y dydd i’r adeilad a mae disgownt ar logi ein ystafelloedd cyfarfod ac hyfforddiant i’n tenantiaid.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Darren Morley ar 01758 770 000 neu post@conglmeinciau.org.uk

 

Charismatic Cat Candles

Roeddem yn falch iawn i groesawu Jodie Thomas o Charismatic Cat Candles i’r ganolfan ym Mis Gorffennaf. Mae’r cwmni yn creu cynhyrchion arogl i’r cartref fel canhwyllau, cwyr yn toddi, bomiau bath, a chwistrellwr ystafell. Pob lwc i Jodie efo’r busnes! Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am Charismatic Cat Candles dyma ei gwefan yma.

 

Hyfforddiant a Digwyddiadau

Grŵp Te Bach Botwnnog –10/11/2018 – 14/11/2018 – 12/12/2018 – £1

Mae Be Nawni’ Heddiw, sef prosiect sydd yn creu digwyddiadau a chyfleuoedd i gymdeithasu, yn cynnig gweithgaredd Grŵp Te Bach Botwnnog sydd yn rhoi cyfle i dinasyddion Pen Llŷn cymdeithasu gyda eu gilydd i ysbrydoli cydymaith. Mae’r gweithgareddau yma yn £1 yn unig y person yn cynnwys te, coffi, cacennau, a thrafnidiaeth gan O Ddrws i Ddrws. Os oes gennych diddordeb i mynychu’r sesiwn nesaf yr unig beth sydd angen gwneud ydi cysylltu gyda Dafydd trwy ffonio 07393 180 925 neu anfon e-bost i dafydd@amcan.cymru.

Cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle – Dydd Iau 18/10/2018 – £50.00 + TAW

Mae’r cwrs yn gael ei rhedeg gan Snowdonia First Aid. Fydd y cwrs undydd yma yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol gan gynnwys cymorth cyntaf a rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle. Gewch ddysgu am:
• Swyddogaeth y Cymhorthydd Cyntaf
• Adfywio
• Cadw’r llwybr anadlu’n glir
• Dysgu sut i ddefnyddio defibilator
• Tagu
• Dysgu sut i berfformio CPR mewn argyfwng
• Yr Ystum Adferol
• Gwaedu allanol
• Trin anafiadau bychain

Facebook i Busnesau – 10:00 – 13:00 Dydd Iau 25/10/2018 – Am Ddim!

Os genych diddordeb ar sut i wella eich busnes ar Facebook neu dysgu sut i’w ddefnyddio? Rydym yn cynnal cwrs am ddim yng Congl Meinciau. Mae’r cwrs yma yn cael ei gynnal gan Gwenan Griffiths o Prifysgol Bangor.

Busnes Cymru: Cymorth Busnes Un i Un – 06/11/2018 – Am Ddim!

A ydych yn berchen ar busnes? Rydych yn sefydlu busnes newydd? Os felly, yr ydym yn cydweithio gyda Busnes Cymru i gynnig cefnogaeth busnes un i un ar gyfer pobl sydd yn meddwl cychwyn busnes neu rywun sydd yn edrych am gymorth busnes cyffredinol. Fydd y sesiynau yma yn rhoi’r wybodaeth rydych angen ag yn asesu eich sgiliau ag eich gallu ynglŷn â rhedeg busnes. Mae sesiynau yma ar gael trwy creu apwyntiad yn unig felly fydd rhaid cysylltu gydag Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Sesiynau ar gael: 10:00 AM, 11:30 AM, 14:00 PM.

Instagram i Busnesau – 10:00 – 13:00 Dydd Mercher 21/11/2018 – Am Ddim!

A rydych eisiau gwella presenoldeb eich busnes ar Instagram? Rydych angen creu proffil ar Instagram neu dysgu sut i’w ddefnyddio? Rydym yn cynnal cwrs am ddim yng Congl Meinciau. Fydd y cwrs yma yn cael ei gynnal gan Gwenan Griffiths o Prifysgol Bangor.

Os ydych eisiau sicrhau eich lle ar unrhyw cwrs, cysylttwch gyda ni yma yn Congl Meinciau ar 01758 770 000 neu post@conglmeinciau.org.uk

 

Digwyddiadau her menter mewn cydweithrediad â Syniadau Mawr Cymru ac Ysgol Botwnnog #HerMenterConglMeinciau

Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gweithio gyda Syniadau Mawr Cymru ac Ysgol Botwnnog i gynnal dau ddiwrnod her menter ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 yn Ysgol Botwnnog. Y pwrpas y tu ôl i’r digwyddiadau yma oedd creu cyfle  i ddisgyblion Ysgol Botwnnog ddysgu a datblygu eu sgiliau mentergarwch ond roedd hefyd yn gyfle i’r disgyblion ddefnyddio eu creadigrwydd er mwyn creu prosiect a busnes difyr a oedd yn canolbwyntio ar eu diddordebau a’u hardal leol.

Y busnesau a oedd yn bresennol yn ystod y ddau ddiwrnod her menter oedd Daffodil Foods, Amcan, Blagur, Becws Islyn, Llyn Sundecks, Tanya Whitebits, Gwasg Carreg Gwalch, ag Cwrw Llŷn. Diddorol iawn oedd gweld pa elfennau a ddysgwyd gan y grwpiau a’r disgyblion yn dilyn y gweithgareddau gyda’r busnesau yn y bore, a sut roeddent yn mynd ati i ddefnyddio’r wybodaeth honno i greu a chyflwyno eu busnes.

Bob diwrnod, roedd un grŵp buddugol ac un disgybl arloesol yn cael eu gwobrwyo. Roedd yn bleser pur cael rhoi’r wobr i’r grŵp buddugol a’r disgybl unigol gyda thlws llechi gan Llechi Llan a thalebau unigol i bob disgybl ar gyfer Bounce Below, Zip World. Roedd hi’n wych gweld y disgyblion yn datblygu eu hyder, eu gwybodaeth a’u sgiliau mentergarwch ac arloesol wrth i’r gweithgareddau fynd yn eu blaen. Hoffwn ddweud diolch enfawr i bawb a gymerodd rhan ar y diwrnod i sicrhau bod y  gweithgareddau ar gyfer y disgyblion yn llwyddiannus.

 

Digwyddiadau Diweddar

Bu Busnes Cymru yma dros yr haf yn cynnig sesiwn cymorth busnes un i un yma yn y ganolfan. Mae’r sesiynau un i un yma yn berffaith ar gyfer pobl sydd yn meddwl am greu busnes newydd neu i’r rhai ohonoch sydd wedi dechrau creu busnes newydd er mwyn derbyn cymorth ar sut i symud ymlaen.

Bu Citizens Online hefyd yn y ganolfan yn cynnig cymorth a bu eu sesiwn olaf ym mis Gorffennaf. Mae Citizens Online yn cynnig cymorth ffôn symudol, tabledi, iPads, a gliniadur.

Fe wnaeth Llenyddiaeth Cymru gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gydag Anni Llŷn ar fore Llun a bore Mawrth 20 – 21fed o Awst. Roedd y gweithdai yma yn gyfle i blant 5 i 12 oed ysgrifennu straeon creadigol, gyda chroeso i weddill y teulu.

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, unrhyw ymolhiadau , neu angen sicrhau eich lle ar unrhyw cwrs cysylltwch gyda ni yn yr ganolfan.

Rhif cyswllt: 01758 770 000
E-bost: post@conglmeinciau.org.uk

Cofiwch cadw eich llygaid ar ein cyfrangau cymdeithasol ar gyfer newyddion ar cyrsiau, digwyddiadau, a gwybodaeth ychwanegol.