Cwrs Linkedin ar gyfer busnesau sydd eisiau mwy o gwsmeriaid
Linkedin ydy un o’r cyfryngau marchnata mwyaf dylanwadol, mae’n gyrru mwy o draffig at wefannau corfforaethol a blogiau nag unrhyw rwydwaith cymdeithasol arall. Mae hefyd yn un o’r rhwydweithiau sydd yn tyfu gyflymaf, gyda dros 3 miliwn o fusnesau bellach efo tudalen busnes, a dros 50% o fusnesau yn ennill cwsmeriaid trwy Linkedin.
Ar y cwrs, cewch ddysgu sut i ddefnyddio Linkedin i greu cyfleoedd gwerthfawr a fydd yn arwain at fwy o fusnes, yn cynnwys:
- Creu proffil grymus sydd yn gweithio
- Defnyddio geiriau allweddol Linkedin er mwyn dwyn y blaen ar eich cystadleuwyr
- Cysylltu Linkedin gyda rhwydweithio wyneb yn wyneb yn effeithiol
- Creu proffil cwmni ac ennill dilynwyr
- Rhannu eich cynnwys er mwyn ehangu eich enw da
Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle ar y cwrs, ffoniwch 01758 770 000 neu e-bostiwch post@conglmeinciau.org.uk
Canolfan Fenter Congl Meinciau – £25.00