Cyfle i creu gwefan syml i fusnes eich hun

Dysgwch sut i greu gwefan syml ar Squarespace.

Ymunwch â Katy Carlisle o The Wheel Exists i greu gwefan syml pedair tudalen gan ddefnyddio offeryn adeiladu gwefan Squarespace; nid oes angen profiad rhaglennu, a bydda ni’m yn defnyddio jargon!

Byddwn yn ymdrin â:

  • Dewis templed
  • Ychwanegu tudalennau a thestun
  • Ychwanegu delweddau (gan gynnwys eich logo os oes gennych un)
  • Addasu lliwiau a ffontiau
  • Nodweddion a gosodiadau y byddech chi’n eu colli fel arall
  • Cyflwyniad i Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
  • Ychwanegu gwybodaeth SEO
  • Ychwanegu baner Cwcis i gydymffurfio â GDPR
  • Cysylltu parth eich gwefan
  • Pa gynllun tanysgrifio sy’n iawn i chi

Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle ar y cwrs, ffoniwch 01758 770 000 neu e-bostiwch post@conglmeinciau.org.uk

Canolfan Fenter Congl MeinciauFree

Ymholi am y Digwyddiad