Clwb Coginio Haf
Yn ystod y 4 wythnos diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal gwersi coginio i blant yma yng Nhongl Meinciau, yn defnyddio ein Egin Cegin! Mi wnaethom bartneru hefo Menter Mon, a’u partneriaeth bwyd Gwynedd i ddod a’r sesiynau i blant blwyddyn 7 ag i fyny yma ym Motwnnog, hefo’r gobaith o ddysgu sgiliau craidd coginio, a rhoi cyfle iddynt greu prydau o fwyd maethlon a blasus i fynd adra hefo nhw ar ddiwedd y sesiynau. Yn ogystal wrth gwrs a chael cyfle i gymdeithasu hefo ffrindiau yn ystod y gwyliau ysgol.
Y cogydd ac awdur Rhian Cadwaladr sydd wedi bod yma yn cynnal y sesiynau, a mae wedi bod yn wych gweld y plant yn mwynhau cael eu dysgu ganddi. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Rhian am ei hamser a’i ymdrech wrth ddysgu y plant!
Bu’r plant yn creu ystod eang o brydau gwahanol dros y sesiynau, yn cynnwys prif brydau a phwdinau yn ystod pob sesiwn. Yn ystod wythnos 1, bu’r criw yn brysur yn creu salad pasta a flapjacks iach, wythnos 2 cawsant y cyfle i greu pitsas a myffins ceirch, quiches a galets ffrwythau tymhorol cafwyd eu creu yn ystod y 3ydd wythnos, a spaghetti bolognese a torth fanana ar y 4ydd wythnos.
Pwrpas a bwriad y sesiynau oedd i roi cyfle i bobl ifanc lleol gael blas o’r diwydiant bwyd a dysgu sgiliau oes a medrant eu defnyddio yn y dyfodol.
