Ffrwyth llafur blynyddoedd o ymdrech gan unigolion a chyrff ar draws Pen Llŷn
Yma yn Canolfan Fenter Congl Meinciau rydym yn cynnig gofod swyddfa ac adnoddau i fusnesau ym Mhen Llŷn. Rydym yn cynnal gwahanol digwyddiadau a chyrsiau sydd yn anelu at helpu a datblygu busnesau. Mae’r digwyddiadau a cyrsiau yn gael ei gynnal yn ein stafelloedd cyfarfod sydd ar gael i’w rhentu yn dyddiol ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau allanol.
Mae’r Ganolfan yn ffrwyth llafur sawl unigolyn a chorff tros gyfnod o rai blynyddoedd mewn ymdrech i geisio sicrhau adnodd ym Mhen Llŷn i sbarduno, cefnogi a hwyluso mentergarwch yn lleol. Bu i’r Ganolfan gael ei hadeiladu gan gwmni lleol ac fe arianwyd y datblygiad gan Gymdeithas Tai Eryri, Cynulliad Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae’n cyrraedd safon amgylcheddol BREEAM rhagorol.
Y cyfleusterau gorau
Band-eang
Cysylltiad band eang yn ogystal â WiFi i'w gael ym mhob uned
Mynediad 24 awr
Mynediad di-rwystr 24 awr y dydd
Caffi
Mae Cegin Grug yn gaffi ag deli o safon uchel ar y safle. Mae'r deli ar agor yn rheolaidd ar Ddydd Gwener a Dydd Sadwrn. Cofiwch gysylltu i sicrhau eu hamseroedd agored.
Lleoliad Cyfleus
Mae'r ganolfan wedi ei leoli mewn lleoliad cyfleus i'ch busnes chi
Parcio Cyfleus
Maes parcio gyda lle i 28 cerbyd
Llwybr Cludiant Cyhoeddus
Wedi ei leoli ar lwybr cludiant cyhoeddus
Ein llwyddiannau hyd yma
o fusnesau wedi derbyn cymorth
Rydym ni’n cynnig cymorth i amrywiaeth eang o fusnesau lleol. Mae ein cymorth bob amser wedi ei deilwra i’r busnes penodol.
o fynychwyr cyrsiau
Mae’r ganolfan wedi cynnig llu o ddigwyddiadau hyfforddiant ers agor yn 2010.
o denantiaid
Rydym ni wedi llogi unedau i 25 o denantiaid ers i’r ganolfan agor yn ôl 2010.
cwrs yn y ganolfan
Ynghyd â’n cyrsiau hyfforddiant, rydym ni wedi cynnig dros 50 o gyfleoedd i fusnesau lleol.
Safon amgylcheddol BREEAM rhagorol
Bu i’r Ganolfan gael ei hadeiladu gan gwmni lleol ac fe arianwyd y datblygiad gan Gymdeithas Tai Eryri, Cynulliad Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae’n cyrraedd safon amgylcheddol BREEAM rhagorol.
- Mae’r adeilad yn cael ei gwresogi drwy dynnu gwres o’r ddaear.
- Fe gynhyrchir trydan drwy ddefnyddio paneli PV ar y to.