Busnes Cymru yw gwasanaeth cefnogi busnes Llywodraeth Cymru. Mae ei wefan gynhwysfawr ddwyieithog yn cynnig ystod eang o adnoddau i helpu busnesau o bob maint i dyfu. Maent hefyd yn cynnig gweithdai a chefnogaeth 1 i 1 sydd yn cael ei gynnal yn Congl Meinciau ar adegau.

Ffôn: 01745 585 025
E-bost: northwales@businesswales.org.uk
Gwefan: www.businesswales.gov.wales

Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru ag maent yn darparu cymorth i entrepreneuriaid i gael ymwybyddaieth byd busnes ag yn helpu i ddatblygu eu syniadau menter. Mae Syniadau Mawr Cymru yn darparu gwybodaeth ar pa sgiliau sydd ei angen i creu busnes ag sut i datblygu sgiliau, dysgu am y perthynas rhwng y busnes ag ei cwsmeriad, sut i marchnata’r busnes a cyflogi aelodau staff. Yn ogystal a hynny rydych hefyd yn medru gael cymorth sut i cychwyn busnes yn rhan- amser ag sut i cychwyn busnes o cartref, ag sut i cynhyruchu eich syniadau.

Ffôn: 03000 603 000
Gwefan: businesswales.gov.wales/bigideas

Cronfa benthyciadau di-log ar gyfer pobl Pen Llŷn i gychwyn busnes newydd neu i dyfu busnes sy’n bodoli’n barod. Mae’r cynllun bellach ar agor i bobl o bob oedran.

Ffôn: 01766 514 057
E-bost: betsan@mentermon.com
Gwefan: benesallyn.wordpress.com

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru trwy ei gwneud hi’n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu. Cyllid hyblyg ar i fusnesau yng Nghymru o £1,000 i £5 miliwn. Benthyciadau ac ecwiti. Wedi’u diogelu a heb eu diogelu.

Ffôn: 0800 587 4140
E-bost: Sion.wynne@developmentbank.wales
Gwefan: developmentbank.wales

Mae’r Gronfa yn gweithredu o fewn ffiniau Cyngor Gwynedd ac fe ddylai pob busnes fod â’i ganolfan weithredu neu fod â nifer sylweddol o’i weithwyr parhaol llawn amser o fewn ffiniau Gwynedd. Mae cymhwyster wedi ei gyfyngu i fusnesau (yn cynnwys mentrau cymdeithasol) sy’n gymwys fel busnesau Bach a Chanolig (BBaCh).

Pwrpas y benthyciad yw creu neu ddatblygu busnes ac nid i ad-dalu dyledion neu fenthyciadau eraill.

Bydd benthyciadau bach a wneir gan y Gronfa rhwng £25k a £100k, gyda’r cyfle i fenthyg symiau uwch (benthyciad Ased o hyd at £750k) cyn belled â’i fod wedi ei gefnogi gan warant seiliedig ar ased gwerth da (tir ac adeiladau yn nodweddiadol).

Ffôn: 01286 679 778
E-bost: busnes@gwynedd.gov.uk
Gwefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Busnesau

Mae ReAct yn helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddiswyddo ennill sgiliau newydd ac mae’n annog cyflogwyr sy’n recriwtio i gyflogi gweithiwr di-waith.

Mae dau becyn ar gael i chi os ydych chi’n rhoi swydd i rywun sydd wedi’i ddiswyddo:

  • mae Cefnogaeth Recriwtio i’r Cyflogwr, yn talu cyflogwyr sy’n penodi unigolion gafodd eu diswyddo yn y 3 mis diwethaf. Mae’r pecyn hwn yn cynnig hyd at £3,000 sy’n cael ei dalu mewn pedwar rhandaliad fel cyfraniad at gostau cyflog
  • mae Cefnogaeth Hyfforddi’r Cyflogwr yn gronfa ddewisol ar wahân sy’n cynnig hyd at £1,000 i gyflogwr ei ddefnyddio i dalu costau hyfforddiant sy’n berthnasol i swydd y sawl y mae wedi’i benodi.

Caiff y cyflogwr ddewis a yw am ymgeisio am Cefnogaeth gyda Recriwtio ar ei ben ei hun neu am Gefnogaeth gyda Recriwtio a Hyfforddi. Nid yw’n bosibl i chi gael Cefnogaeth Hyfforddi oni bai eich bod yn cael Cefnogaeth Recriwtio hefyd.

Ffôn: 03000 255 888
E-bost: reactenquiries@gov.wales
Gwefan: gov.wales/topics/educationandskills

A yw eich iechyd yn effeithio arnoch yn y gwaith?

Mae RCS yn sefydliad nid er elw, sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau ledled Gogledd Cymru i gefnogi pobl gydag anghenion iechyd i ddod o hyd i, a chynnal cyflogaeth gynaliadwy.

Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith:

  • Mae’n helpu pobl gyflogedig a hunangyflogedig i fynd i’r afael ag anghenion iechyd megis gorbryder, tymer isel neu boen cefn, er mwyn eu helpu nhw i weithio’n fwy effeithiol yn y gwaith. Mae’n cynnwys hyfforddiant un-i-un a mynediad cyflym ac am ddim at therapïau siarad, cwnsela, CBT neu ffisiotherapi.
  • Ceir mynediad at wybodaeth a chefnogaeth gyda materion perthnasol megis budd-daliadau, cwnsela dyled etc.
  • Darperir cefnogaeth a hyfforddiant am ddim i gyflogwyr i wella llesiant y gweithle
  • Cynigir y gwasanaeth ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Ynys Môn a Gwynedd

Able Futures

  • Mae’n darparu cymorth mentora a hyfforddiant am hyd at 9 mis i bobl gyflogedig gydag anghenion iechyd meddwl
  • Yn cynnwys mynediad at gwnsela am ddim
  • Darperir ar draws Gogledd Cymru

Mi Fedraf Weithio

  • Yn darparu cymorth arbenigol i helpu pobl gydag anghenion iechyd meddwl i mewn i gyflogaeth.
  • Darperir ar draws Gogledd Cymru mewn partneriaeth â CAIS.

Mae ein holl wasanaethau am ddim ac yn gyfrinachol.  Yn ystod y pandemig, mae ein gwasanaethau ar gael dros y ffôn ac ar-lein.

Ffôn: 01745 336442

E-bost: hello@rcs-wales.co.uk

Gwefan: https://rcs-wales.co.uk/cy/

Mae Helo Blod yn rhoi cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i dy fusnes, gyda hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun bob mis.

Bydd dy gyfieithiad yn cael ei ddychwelyd cyn pen 4 diwrnod gwaith, neu 1 diwrnod gwaith am 5 gair neu lai!

Ffôn: 03000 25 88 88

Gwefan: https://businesswales.gov.wales/heloblod

Os ydych chi’n ffermio, pysgota, prosesu neu werthu bwyd a diod o Gymru ac yn dymuno datblygu eich busnes, gall Cywain eich helpu.

Sut all Cywain helpu eich busnes

Mae Cywain yn gweithio gyda busnesau sy’n canolbwyntio ar dwf yn y dyfodol.

Ar ôl asesu gofynion eich busnes, gall Cywain gynorthwyo eich busnes i dyfu at y dyfodol drwy ddarparu nifer o wasanaethau gan gynnwys:

  • Eich cyflwyno i fusnesau eraill yn ystod ein digwyddiadau, a fydd yn dod â chynhyrchwyr a phrynwyr eraill o bob cwr o Gymru ynghyd
  • Creu cyswllt rhyngoch chi a mentoriaid, arbenigwyr o fewn y diwydiant, cyflenwyr gwasanaethau bwyd a chyrff ariannu a fydd yn gallu eich cynorthwyo i fynd â’ch busnes i gyfeiriadau gwahanol
  • Gweithio gyda chi ar syniadau yn ymwneud â chynnyrch a datblygu busnes, gan ddarparu clust i wrando pan fo’i angen
  • Darparu cyngor marchnata a strategaeth fusnes, o frandio a’r cyfryngau cymdeithasol i reoli’r gadwyn gyflenwi a chynlluniau busnes
  • Eich cynorthwyo i oresgyn rhwystrau rheoliadol sy’n gallu creu problemau i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant bwyd a diod
  • Rhoi mynediad at waith ymchwil i’r farchnad a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau deallus
  • Helpu eich cynnyrch i gyrraedd marchnadoedd newydd
  • Swyddog Prosiect Penodol i drafod eich syniadau

Ffôn: 01745 770036

Ebost: cywain@menterabusnes.co.uk

Gwefan: https://menterabusnes.cymru/cywain/

Mae’r Hwb Menter yn rhoi’r wybodaeth, arweiniad, ysbrydoliaeth a’r gofod i entrepreneuriaid drawsnewid eu syniad yn fusnes llwyddiannus.

  • Ymhlith y gwasanaethau a gynigir mae:
  • swyddfeydd cydweithio
  • cymuned o unigolion o’r un anian i rannu syniadau a chynnig anogaeth
  • cyngor busnes
  • ystod o ddigwyddiadau addysgol / cymdeithasol
  • Gofod Creu Ffiws
  • rhaglen cychwyn busnes Miwtini

A’r darn gorau yw, mae hyn i gyd heb unrhyw gost i chi fel aelod o’r Hwb am o leiaf 6 mis!

Ffon: 01248 858 070

Ebost: post@hwbmenter.cymru

Gwefan: http://www.hwbmenter.cymru/