Cyrsiau
Yn y ganolfan fenter rydym yn cynnal amryw o gyrsiau gwahanol! Dyma’r cyrsiau fydd yn rhedeg am y misoedd dros yr haf:
Busnes Cymru: Syrjeri Un i Un Cymorth Tendro – 05/06/2018
Rydym yn cydweithio gyda Busnes Cymru i gynnig cymorth tendro un i un i fusnesau ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth i dendro yn llwyddiannus.
Hyfforddiant Rheoliant Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) – 05/06/2018 (llawn) & 18/06/2018
Oherwydd llwyddiant ein sesiwn hyfforddiant gyntaf gyda Chwmni CELyn, rydym wedi trefnu dwy sesiwn hyfforddiant Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ychwanegol. Mae’r ddeddf Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn dod i rym ar 25ain o Mai – mae’r ddeddf yma yn effeithio chi os ydych yn delio gyda gwybodaeth neu ddata personol. Trwy’r sesiynau hyfforddiant mae Cwmni CELyn yn darparu gwybodaeth sydd ei angen i ddeall y ddeddf newydd. Cewch ddysgu sut mae’r ddeddf yn eich heffeithio chi, a beth sydd angen i chi ei wneud i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r ddeddf newydd. Rydym yn cynnal y sesiwn hyfforddiant ychwanegol ddydd Mawrth 05/06/2018 a dydd Llun 18/06/2018.
Cymorth Cyntaf yn y Gweithle 12/06/2018 – 9.30AM – 4.00PM – £50.00 + TAW
A wyddoch chi beth i’w wneud mewn argyfwng? Mae gennym gwrs Cymorth Cyntaf yn y ganolfan unwaith eto a fydd yn darparu’r wybodaeth sydd ei angen arnoch. Bydd y cwrs undydd yma yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol gan gynnwys cymorth cyntaf a rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle. Cewch ddysgu am:
• Swyddogaeth y Cymhorthydd Cyntaf
• Adfywio / Resuscitation
• Cadw’r llwybr anadlu’n glir
• Dysgu sut i ddefnyddio defibrillator
• Tagu
• Dysgu sut i berfformio CPR mewn argyfwng
• Yr Ystum Adferol / Recovery position
• Gwaedu allanol
• Trin anafiadau bychain
Syrjeri un i un Cymorth Busnes gyda Busnes Cymru 28/06/2018
Rydym yn cydweithio gyda Busnes Cymru i gynnig cefnogaeth busnes un i un gyda chynghorydd busnes ar gyfer pobl sydd yn ystyried cychwyn busnes neu rywun sydd yn edrych am gymorth busnes cyffredinol.
Byddent yn trefnu a chynnal mwy o gyrsiau yn y misoedd nesaf! Cadwch lygad ar ein cylchlythyrau, Facebook, Twitter, instagram a phosteri o amgylch yr ardal. Os ydych angen sicrhau eich lle ar unrhyw cwrs, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn ag unrhyw ddigwyddiad neu gwrs sydd ymlaen yn ein canolfan, cysylltwch â ni yma yn Congl Meinciau – 01758 770 000 neu post@conglmeinciau.org.uk