Digwyddiad Gwybodaeth a Rhwydweithio
Fel rhan o wythnos busnes Gwynedd, fe wnaethom gynnal sesiwn gwybodaeth a rhwydweithio yma yn Congl Meinciau. Ar y diwrnod, fe wnaeth Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Be Nesa Llyn?, Cymraeg Byd Busnes, a Daffodil Foods roi cyflwyniadau i’r sawl a oedd wedi mynychu. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau rhwydweithio gyda busnesau eraill. Rydym yn edrych ymlaen i baratoi digwyddiad arall fel hyn y flwyddyn nesaf.