Ffiws
Gofod Gwneud yw Ffiws, wedi’i roi yn syml – man cymunedol lle gallwch chi wneud pethau! Mae’r gofod yn cynnwys amrywiaeth o offer y gallwch eu defnyddio yn rhad ac am ddim
Rydym hefo argraffydd 3D, torrwr laser, gwasg gwres, gwasg mwg, torrwr finyl a pheiriannau gwnïo. Cysylltwch os oes gennych chi syniad hoffech chi drio allan.
Mae pawb yn groeso i ein gofod Ffiws ym Motwnnog
- Busnesau sydd yn edrych i greu brandio neu brototeip
- Person hefo diddordeb a gyda syniad i drio allan
- Person neu grŵp cymunedol sydd hefo diddordeb i ddysgu mwy a chreu pethau am hwyl
Cysylltwch heddiw i ddysgu mwy neu dewch i ymweld â ni!
Rydym ar agor ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, 1yh – 7yh. Pigwch mewn i ddeud helo neu e-bostio Lucinda ar FfiwsBotwnnog@gmail.com i ddysgu mwy.
Instagram: Ffiws Botwnnog (@ffiws.botwnnog)
Facebook: Ffiws Botwnnog | Pwllheli | Facebook
Gwefan: Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog — Ffiws (CY)