Gweithredwch i lanhau Pen Llyn!
Mae cymunedau ym Mhen Llyn yn cael eu hannog i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2026 a helpu i godi’r sbwriel sy’n bla yn ein hamgylchedd lleol.
Mae Congl Meinciau yn gweithio gyda’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda’i gilydd maent yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan rhwng 13 – 29 Mawrth.
Nod Gwanwyn Glân Cymru yw codi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu cadarnhaol. Mae sbwriel nid yn unig yn costio tua £70 miliwn i gael gwared arno yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae hefyd yn cael effaith ddinistriol ar fywyd morol a bywyd gwyllt lleol. Y newyddion da yw bod codi sbwriel yn weithred syml y gall unrhyw un ei wneud i wneud gwahaniaeth uniongyrchol a gweledol i’w hardal.
Gall gwirfoddolwyr sy’n trefnu eu digwyddiadau Gwanwyn Glân Cymru eu hunain ymweld â Hyb Codi Sbwriel Congl Meinciau a benthyg popeth sydd ei angen arnynt i gynnal digwyddiad glanhau diogel, yn cynnwys codwyr sbwriel, cylchynau, siacedi llachar a bagiau bin. Mae’r Hyb ar agor 9.00 – 16.30, o ddydd Llun i ddydd Gwener. I fenthyg offer codi sbwriel am ddim, cysylltwch â 01758 770000.
Ers 2016, mae degau ar filoedd o arwyr sbwriel wedi dangos eu bod yn caru eu cartref trwy gasglu tunelli o sbwriel ac ailgylchu. Mae Cadwch Gymru’n Daclus eisiau sicrhau mai 2026 yw ei hymgyrch glanhau mwyaf llwyddiannus erioed.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Eleni, mae ein neges yn glir: mae’r amgylchedd i bawb. P’un ai’n tacluso eich stryd, eich parc lleol, eich hoff draeth, neu fan prydferth, mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei godi yn gwneud gwahaniaeth.
“Mae codi sbwriel yn ffordd syml, am ddim o fynd allan i’r awyr agored, rhoi hwb i’ch lles, a chymryd camau cadarnhaol i wella eich cymuned. Felly, ewch i Hyb, casglwch godwr sbwriel, ewch allan, a dewch i ni weithio gyda’n gilydd i gadw Cymru’n daclus!”
I wneud addewid a chymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru
Am gymorth cyfathrebu cysylltwch â 01758770000 neu post@conglmeinciau.org.uk
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru, ewch i keepwalestidy.cymru #SpringCleanCymru #GwanwynGlânCymru
Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr Cadwch Brydain yn Daclus.
