Ffair Ffeirio Dillad Plant – Wedi GOHURIO

fel rhan o brosiect Llai, da ni wedi trefnu ffair ffeirio dillad plant – cyfle i ffeirio hyd at ddeg eitem – yn ddillad, sgidiau neu fagiau ysgol “fel newydd”. Byddwch wedyn yn cael tocyn ffeirio am bob eitem ydych chi’n dod.
Ella bod gennych chi ddillad del mae’r plant wedi tyfu allan ohonyn nhw mewn dim, neu ‘overall’ efo digon o fywyd ar ôl ynddi neu sgidiau / wellingtons sydd byth yn cael eu gwisgo. Croeso i bob math o ddillad, a bob maint – pethau y gallai plentyn arall eu caru.

Mi fydd gennym ni hefyd fwced dillad chwarae i bawb helpu eu hunain – ac mae croeso i chi ddod ag unrhyw ddillad sydd rhy flêr i wisgo allan, ond sy’n ddelfrydol i ddringo coed, chwarae pêl-droed mewn cae mwdlyd neu helpu ar y fferm i’w cyfrannu i’r bwced.

Tocynnau yn £5.  Dim ond 40 tocyn fydd yna, felly cyntaf i’r felin!

Dewch draw – mi fysa ni wrth ein bodd yn cael eich cwmni.

Buy tickets – Ffair Ffeirio Dillad Plant/ Children clothes swap Congl Meinciau – Congl Meinciau

Canolfan Fenter Congl Meinciau£5

Ymholi am y Digwyddiad