Cawsom bnawn hyfryd ar Ddydd Llun, y 19fed o Ionawr, wrth i Lisa Eurgain Taylor gynnal sesiwn ‘Inc a Phaned’ i ofalwyr di dal. Roedd yn bnawn difyr a hwyliog, a cafodd yr holl fynychwyr gyfle i fod yn greadigol, ac i ymlacio mewn awyrgylch braf a ddi straen. Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am ariannu y sesiwn hon er mwyn i’r gofalwyr gael mwynhau y sesiwn yma AM DDIM! Rydym yn cynnal mwy o ddigwyddiadau a gweithdai creadigol drwy gydol y flwyddyn, felly cadwch lygaid ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol!











