Dros yr wythnosau diwethaf mae’r Clwb Gweu wedi bod yn brysur yn creu teganau meddal ar gyfer plant Ysgol Jolaurabi yn Kenya. Mae Ysgol Pont Y Gof mewn cysylltiad a’r ysgol, a daethant atom yn Mis Ebrill i ofyn os fuasai’r clwb gweu newydd yn hapus i greu teganau ar gyfer meithrinfa newydd sydd yn cael ei agor yn yr Ysgol. Wrth gwrs roedd ein gweuwyr talentog yn barod i fynd ar waith, a dros gyfnod o 6 wythnos, bu i bawb ddod at eu gilydd bob bore Dydd Gwener i greu’r teganau, a chreu rhai adref hefyd. Cafodd tedis, cwningod, tylluanod, llygod, eliffantod, mwnciod a llawer mwy eu creu yn defnyddio gwlan a gafodd ei gyfrannu i’r clwb gan y gymuned leol. Rydym felly yn hynod o ddiolchgar i bawb am fod mor hael.

Roedd yn wych croesawu plant Ysgol Pont Y Gof yma hanner ffordd drwy’r prosiect i weld y teganau a chael golwg ar y gwaith cymunedol sydd yn cael ei wneud yma yng Nghongl Meinciau.Bydd yn rhyfedd iawn gweld yr holl deganau wedi mynd, ond rydym yn gobeithio yn wir fydd y plant bach yn Kenya yn mwynhau chwarae a ‘cuddlo’ hefo nhw.  Bydd y Clwb Gweu yn parhau ar fore Dydd Gwener wrth i ni weithio ar brosiectau newydd. Croeso mawr i bawb!